Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darostwng pawb a fyddai yn gorthrymu ac yn treisio'r bobl o'u hiawn.

"3. Y dylai amddiffyn ac ymgoleddu gwragedd gweddwon rhag magl a niwed maleiswyr; edfryd plant a dreisid o'u heiddo at eu gwir feddiant ; a maentumio'r grefydd Gristionogol yn wrol.

"4. Y dylai, hyd eithaf ei allu, gadw llonyddwch yn y deyrnas, a gyru ymaith y gelynion.

"5. Y dylai ychwanegu at bob gweithred glodfawr, tori lawr bob campau drwg, cynnorthwyo y gorthrymedig, dyrchafu braint yr Eglwys Gatholig, ac ymgoleddu pererinion.

"6. Y dylai gladdu y sawdwyr a fyddent yn gorwedd ar wyneb y maes heb feddrod. Gwared y carcharorion a'r rhai a gaethiwid ar gam, a iachäu y rhai a glwyfid yn ymladd dros eu gwlad.

"7. Y dylai fod yn galonog i fentro ei hoedl mewn pob rhyw wasanaeth anrhydeddus, eto fod yn deg a chyfiawn.

"8. Y dylai, wedi gwneuthur unrhyw weithred odidog, ysgrifenu hanes am dani mewn coflyfr, er tragwyddol ogoniant i'w enw a'i gydfarchogion.

"9. Os dycer dim achwyniad i'r llys am dyngu anudon, neu orthrwm, yno y dylai'r marchog hwnw a appwyntia'r brenin, amddiffyn y gwirion, a dwyn y drwg weithredwr i farn cyfraith.

"10. Os digwyddai ddyfod un marchog o wlad ddyeithr i'r llys, ac yn chwennych dangos ei wroldeb,