yna y dylai'r marchog a appwyntia'r brenin ymladd ag ef.
"11. Y dylai pob marchog ddysgu arglwyddi a phendefigion iefainc, i drin arfau yn gywrain, nid yn unig i ochelyd seguryd, ond hefyd i chwanegu anrhydedd eu swydd a'u gwroldeb."
Arferion y
Brytaniaid.Hynod oedd eu medrusrwydd i baentio a britho a lliwiau, yn enwedig i baentio ar crwyn luniau ehediaid, bwystfilod, pysgod, ac ymlusgiaid. Hyn oedd ran o wychder y gwŷr mawr; sef eu bod, o goryn y pen hyd wadn y traed, yn llawn o luniau creaduriaid byw. Math o liw glas ydoedd, ac ni wisgid mo hono byth allan, am ei fod wedi ei ollwng i mewn, â phigiad nodwydd, i'r croen. Pa un ai bod rhinwedd ynddo i gadw'r corff mewn iechyd hyny nis gwni; ond y mae yn ddilys fod yr hen Frytaniaid yn byw yn aml hyd saith ugain.
Crwth a thelyn oedd y gerddoriaeth benaf ym mysg yr hen bobl. Symlen ben bys oedd gainc cyffredin iawn. Lledr oedd dros wyneb y cafn; ac o achos hyny a gyfenwid y delyn ledr. Y dysgyblion a ddechreuent ganu â thannau rhawn, ac a dalent bedair ceiniog ar hugain areu gwaith yn myned yn ben cerddwyr; canys felly y dywed y gyfraith, "Y neb a fyno ymadael a thelyn rawn, a bod yn gerddor cyweithas, pedair ar hugain a ddyly."