EDWARD SAMUEL.
ADNABYDDIR yr ysgrifennwr llithrig hwn yn aml fel Person Bettws Gwerfil Goch. Fe'i ganwyd mewn tyddyn o'r enw Cwt y Defaid, plwyf Penmorfa, Sir Gaernarfon, yn 1674. Tlodion iawn oedd ei rieni, fel na chafodd Edward Samuel nemawr o addysg ym moreu ei oes, ond addysg brin ei gymydogaeth. Ond yr oedd Dr. Humphreys, Esgob Bangor, yn noddwr tyner iddo, a thrwy ei waith ef daeth Edward Samuel yn berson Bettws Gwerfil Goch yn 1702. Arosodd yno tan 1721, pryd y symudodd i blwyf agos arall, Llangar, lle y bu farw yn 1748. Felly treuliodd yr oll o'i fywyd gweinidogaethol yn nhawelwch mil bryniau Meirion sy'n gwylio glannau y Ddyfrdwy, yno y bươn pregethu, yn diwyllio ei hunan, ac yn cyfieithu amryw lyfrau i'r Gymraeg; ac yn eglwys Llangar y gorffwys ei weddillion.
Y mae'r darnau a ddetholir yma wedi eu dewis o'i gyfieithiad o "Wirionedd y grefydd Gristionogol," gwaith mawr Hugo Grotius. Y mae ei gyfieithiadau yn lluosog iawn,—yr oll o honynt yn llyfrau crefyddol a'u hamcan yn unig i wella moes a buchedd y werin Gymreig. Y dernyn olaf a gyhoeddodd oedd pregeth angladdol a draddodwyd ganddo yn eglwys Llangower, ym Mai, 1720, i Ficer Gwyddelwern. Yr oedd hefyd yn fardd lled hwyliog, gwnaeth farwnad i Huw Morus, a gwelir darnau o'i waith yn y "Blodeu—gerdd."