GWIRIONEDD
Y
GREFYDD GRIST'NOGOL
o waith
HUGO GROTIUS.
A Gyfieithwyd gan Edward Samuel
Person Bettws Gwerfil Goch.
Hosea 14. 9.
Dihar. 8. 33.
Argraphwyd yn y Mwythig.Gan John
Rhydderch yn y Flwyddyn 1716.
At y Darllennydd.
Pwy bynnag a fwrio Olwg ar hyn Lyfrau mor bwyllog ac mor ystyriol ag y gweddai i'r defnydd rhagorol y cyfansoddwyd Ef o honaw, nid rhaid byth ddywedyd iddo fuddioled a godidocced ydyw; gan ei fod yn cadarnhau sylfan a gwreiddyn y Grefydd Grist'nogol, yn goleufynegi siccrwydd ei holl Brif bynciau ardderchoccaf, gyda phurdeb a gwirionedd ei Hysgrythyrau; ac yn dadcan ei godidowgrwydd rhagor pob Crediniaethau eraill cyn llwybreiddied a chyn llithricced mor ddibetrus ac mor gadarn-ddihafarch, nad all neb ai darlleno ai hystyrio ac ai deallo, amgen na gweled a chydnabod pa achosion anfeidrol