sydd iddynt i ymlynu yn ddiyscog yn eu Proffess, i ymdrech Ymmhlaid y Ffydd a roddwyd unwaith i'r Sainct, ac i drefnu eu Buchedd a'u Hymarweddiad yn gyfattebol; gan fod iddynt y fath hyspysrwydd diammeu am wirionedd eu crediniaeth, a'r fath ddilys eglurdeb am wobr gogoneddus a thaledigaeth.
Eglur ddadcan y gwirioneddau dwys-fawr hyn yw sylwedd a pherwyl y Traethawd di-gymmar sydd gereich bron; a'r cwbl ynddo sydd gwedi ei osod allan cyn gywreinied a chyn gyflawned ac eto cyn fyrred, trwy gyfryw ddyfndwr Dysceidiaeth, a'r fath ddoeth ymresymmiad didwyll anorfod, nas gwn i erioed ddarllain a chlywed sôn am un o'i faint yn eilfydd iddo. Ond beth a dál fy marn i am bath wrth Dystiolaeth cynnifer o Brif Dyscedigion pob gwlâd YnGhrêd, a gydnabyddant am Awdwr y Llyfr yma, Ei fod yn ei amser yn un o Oleuadau discleiriaf holl Europa, am bob math ar Ddoethineb a Dysceidiaeth, fel y mae hefyd amryw Lyfrau Eraill o'i Waith Ef, a hwn yn anad un yn hollawl-fynegi.
Mor ddefnyddiol hefyd ac angenrheidiol y barnwyd Hwn, ai fod mewn brî a chymmeriaeth gydâ phob Gwyr o Ddysc yn y Llading-iaith y cyfansoddwyd Ef ynddi, ac wedi ei gyfieithu ir rhan fwyaf or Ieithoedd sathredig yn y Parth yma o'r Byd (sef Ieithoedd y Saeson, y Ffrancod, yr Ellmyn, yr Italiaid, ac eraill, a rhai hefyd o leithoedd Asia) er mwyn iawn sylfaenu'r Bobl Gyffredin ymmhob Gwlad YnGwirionedd a