siccrwydd y Grefydd Gristnogol. A dyma'r achos a barodd i'r Awdwr ei 'sgrifennu ar y cyntaf yn iaith ei Wlad ei hun, ar Draethod Cynghanedd er lles y Cyffredin, yn enwedig y Morwyr, er mwyn eu sefydlu yn y Ffydd au harfogi yn erbyn Gau Grediniaethau, Cenhedloedd ac Iuddewon a Mahumediaid, fel y mae'n mynegu'n helaeth yn y Rhagymadrodd.
Gan ei fod wrth hynny gwedi ei gyfansoddi ar y cyntaf, er cyfarwyddid a Gwybodaeth i'r Gwerin cystal ac ir Dyscedig, ai gyfieithu mewn amrwy Dafodau o herwydd yr un perwyl rwy'n gobeithio na wêl neb fai am ryfygu o honof ei droi hefyd yn Gymraeg er mwyn ein cydwladwyr ninnau. Mae cyn rheitied i ni ag i Bobl Eraill fedru rhoddi Rheswm am y gobaith fydd ynom; Mae Efrau ysowaeth gwedi eu hau yn ein plith ni cyn dewed ac mewn mannau eraill; ac nid wy'n deall nad oes gan bob math o Drigolion Cymru gystal Athrylith a Synwyr Naturiol i wrando a dirnad Rheswm, i wybod rhagoriaeth rhwng da a drwg, rhwng Cam ac Union, ac rhwng Gwir ac Anwir, ag sydd gan Eraill o'u Cŷd-râdd yn y gwledydd o'u hamgylch. Gobeithio ynteu y gall y rhai'n dderbyn cymmaint lleshad ac adeiladaeth wrth ddarllain y Llyfr yma yn Gymraeg ac y gafodd eu cyffelyb yn holl ardaloedd Crêd wrth ei ddarllen ieithoedd y Broŷdd hynny.
Ac nid ydyw'r cyfrwy orchwyl ysgatfydd mor afreidiol yn ein Gwlad ni ag y gall Bagad feddwl ei