Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny, megys rhuthro ar y saith genedl haeddasent hynny; ac nid ymfodlonasant ar hyn chwaith, eithr caffaent yn llidiog ac erlidient yn greulon bawb oedd yn anghyttuno a hwynt. Ac y mae etto arwyddion or tuedd-fryd ffyrnnig yma yn y gweddiau a ddychymmygant yn erbyn y Crist'nogion: Eithr yr oedd y Gyfraith ei hun yn caniadhau rhydd-did iddynt i ddial eu cam au dwylo'u hunain, ac i ladd llofrudd a fuasei'n Euog o Farwolaeth un o'u cyfnesyfiaid a'u dwylo'u hunain heb na chwyn na chalyn. Ond y mae Cyfraith Christ yn gwahardd yn hollawl ad-talu drwg neu gamm nac ar air nac ar weithred, rhag am y drwg y byddom yn ei euog farnu yn Eraill, in i ei ganmol ai hoffi ein hunain trwy wneuthur y cyffelyb, 'n peri ini wneuthur da i bawb yn enwedig yn wir ir sawl sydd dda a rhinweddol eithr i'r drwg hefyd, yn ol esample Duw ei hun, yr hwn sy'n rhoddi'r Haul a'r Sêr, ar awyr ar Gwynt ar Cafodydd i bob Dyn.


Diddedlir Paganeidd-dra o herwydd fod iddi ddiflannu o honi ei hun pan gollodd hi Gymmorth Dynion.

Paganiaeth
yn diflannu
HEB law a ddywedasom o'r blaen, mae Paganeidd-dra yn hepcor i ni un Rheswm rhagorol yn ei herbyn ei hun; sef syrthio a diflannu o honi'n llwyr ymmhob mann, lle collodd hi Gymmorth Dynion, megys pe buasei ei hunig Gynheiliad ai cholofn gwedi ei dorri i lawr ai dadymchwel. Oblegyd os bwriwch olwg o amgylch