ar y Gwledydd ar Teyrnasoedd sydd tan Lywodraeth Christianogion a Mahumediaid, nid oes, oddieithr mewn Llyfrau, ddim coffa am Baganeidd-dra, iê, ma Cof lyfrau yn dangos, yn yr amseroedd hynny pan oedd yr Ymmerodron trwy nerth Arfau a Chospedigaethau, megys yr oedd y rhai cyntaf, neu trwy Ddysceidiaeth a Synhwyr megys yr oedd Julian yn ceisio cynnal i fynu Grefydd y Paganiaid, ei bod hi er hynny yn gwanhychu beunydd, a hynny, nid trwy wrthwynebion Creulondeb ac Erlidiau, nid trwy Ardderchowgrwydd Achau (canys ni chyfrifid yr Iesu gan y bobl gyffredin, ond mab i Saer) nid trwy flodeu Dysceidiaeth, oblegyd nid arferai'r sawl a ddyscasant Gyfraith Christ ddim or fath beth yn eu Pregethau. Nid trwy Eiriau têg ac ymadroddion gwênieithus, pan oeddynt yn y gwrthwyneb yn mynegi y gorfyddai ir sawladderbyniant Gyfraith Christ, ddiystyru pob Elw a.difyrrwch bydol, a goddef pob adfyd a chaledi o'i hachos.
Gwelwch ynteu faint gwendid Paganeidd-dra pan allodd y fath arfau ei gorfod ai dinystrio. Ac ni ddiflannodd Crediniaeth y Paganiaid yn unig trwy'r Athrawiaeth honno. Eithr yr Ysprydion a yrrwyd allan o Gyrph Dynion, ac a dawsant, a phan ofynnid iddynt yr achos o'u mudaniaeth, gorfu arnynt gyfaddef nad allent hwy ddim lle y gelwid ar Enw Christ.
Jarvis & Foster, Argraffwyr, Lorne House, Bangor.