Ac yna a ymlaen i ddymuno yr hyn ni chafodd ef egwyl i'w gyflawni,—
"Gwaith rheidiol iawn fydde troi'r Psalmeu i gynghanedd Gymraeg, nid i gânghanedd Englyn, nag Owdl, na Chowydd, nag i fath yn y byd ar gerdd blethedig; herwydd felly ni ellir byth troi na'r Psalmeu, na dim arall yn gywir. Eithr i'r fath fesur a thôn canghanedd ag sydd gymeradwy ymhôb gwlad, a ddiwygwyd drwy dderbyniad discleirdeb yr Efengel: ag fal y gwelir yn Seison-aeg, Scotiaith, Ffrancaeg, iaith Germania, iaith Itali a'r cyfryw : fal y gallo'r bobl ganu i gyd ar unwaith yn yr Eglwys: yr hyn beth a fyddai ddifyrwch a diddanwch nefawl iddyn yn y Llan a chartref. Pette gennyf y seibiant a'r hamdden sydd gan lawer, cyntaf peth, a chwannocca poen a gymerwn i arnaf, fydde tueddu at hyn o waith, ar ôl cyd-siarad a dysgedigion Cymry ynghylch pa ddull a math ar ganghanedd, a debygid oref a chymessuraf i hyn o Dduwioldeb."