Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I'R GWIR URDDASOL
A'M CAR ANWYL
Wiliam Meredydd.

Annerch
M. Kyffin
i'w Noddydd.
Mi a welaf may peth arferedig yn yr hen oesoedd gynt ymhlith y Groegwyr a'r Lladinwyr penna'i dysc a'u cymeriad, ydoedd gwneuthyr anrhegion o'u gorchwilion dyscedig i'r sawl oedd nessaf iddynt a hoffaf genthynt: fal y gallent, drwy'r cyfryw fodd adel hyspysrwydd i'r oesoedd a ddele ar eu hol nhwy am rinwedd a rhaglyddiad y gwyr hynny rhagor eraill. Nid anghymmwys i minne ddilyn yr un llwybr wrth ossod allan cyfieythiad hyn o addysc, yr hwn yr wyf yn ei orchymyn i'ch nodded. Oblegig, fegis nad oes neb byw fwy ei serch a'i ewyllis ar wneuthyr mowr-les i'ch gwlad na chwi'n unig; felly nid oes neb dayarol a haedde gael hyn gennyf o'ch blaen chwi'ch hunan. Ag er mwyn nad amheuthyn gennych ddim a aller ei fyfyrio a'i anrhegu i chwi yn Saesonaeg, neu'n Lladin: (yn yr hyn ieithoedd y buoch er ioed gynefin a phob rhyw ddysc ag athrawiaeth) hefyd gan i ni eyn dau ddwyn eyn byd allan o Gymru a bod mor anghynefin i mi scrifenny ag yw i chwithe ddarllen dim yn yr iaith Gymraeg; hynny a wnaeth i mi, ydwyf wir gymro a gwir går o'r eyddoch, ddewis eych annerch a'ch anrhegu yn Gymraeg chwaethach nog mewn un iaith arall. Pa gymro