bynnag a gaffo wellaad dysc neu gynyddiad gwybodaeth oddi wrth y llyfr hwn, diolched i Dduw yn gyntaf, ag i chwithe yn ail. Ef a ddengys hwn y llwybr i'r anghyfarwydd. A chyda hyn, pettid yn pregethu Efengyl Crist yng-Hymry fal y gwelsoch chwi a minne mewn gwledydd eraill, diau nad oes Genedlaeth yng-Hred a alle ragori ar y Cymry mewn Crefydd a Duwioldeb; gan eu bod nhwy o athrylith a naturiaeth yn chwannog i ddyscu pob Rhinwedd a Dayoni, ond cael ei ddangos a'i ddeongl iddynt. Ag yna, ni bydde gymmaint câs, cenfigen, brâd a bwriad drwg yn eu mysc nhwy; lle nid oes yr owr'on, soweth, ddim cyffredinach (medd pawb) nog ymdrechu ymgyfreithio ag ymgrafangu, drwy gam, trowssedd a dygassedd, i ddwyn o ddaiar bawb ei eiddo. Etto o'r diwedd pe cae gwir Grefydd a Gwasanaeth Dduw ddechre'i goledd a'i ossod allan yn hylwybr; a gweled unwaith o'r cyffredin-bobl fod wynebeu a llown-fryd pendefigion Cymru y ffordd honno, e fyddai bob Cymro barod i studio ag i wrando gair Duw yn ddyfal: a gobeithio, cyn nemmawr o ennyd, y ceid gweled ym-mysc gwyr eyn gwlad ni lawer pwnc o ddysc a dawn a diwdrwydd ar ni welwyd hyd yn hyn. Yr hwn beth caniattaed y Goruchaf Dduw iddynt ag i chwithe lwyddiant a llawenydd wrth fodd
eych câr ffyddlonaf
M. KYFFIN.