Prawfddarllenwyd y dudalen hon
RHAN O GYFIEITHIAD M. KYFFIN.
Dim terfysc
yng ngwlad
Efengyl. "Elont, ydolwg, i'r manneu hynny lle yr ydis drwy ddayoni Duw yn pregethu'r Efengyl: ym-mha le mae mwy braint a llai trowssedd y Tywysogion? ym-mha fan rydis yn rhoi mwy o anrhydedd i'r Pennaeth? Pa le mae'r bobl yn llai eu hafrol? Ac ym-mha fan y mae llywodraeth y cyffredin a'r Eglwys yn howddgarach ?
Nid hwyrach y doedwch chwi wneuthyr o bobl y wlad gynnhwrf a therfysg ymhob man yngGermania wrth ddechreuad athrawiaeth yr Efengyl. Gedwch i hynny fod; etto Martin Luther, cyhoeddwr yr athrawiaeth hon, a scrifennodd yn owchlym iawn ag yn bagraidd dros-ben yn eu herbyn hwynt, ag a'u dygodd nhwy drachefn drach-gefn i heddwch ag ufudd-dod.