Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneuthur y Nef a'r ddayar nid mewn dau ddechreuad ond mewn un? Pa ham y darfu iddo ef a'i ganlynwyr, yn ol dull Anabaptistiaid a'r Libertiniaid, fwrw'r Iau heibio ag ymryddhau oddi dan pob awdurdod yn y byd, fel y gallent hwy foelstotta'n benrhyddach, ag yn ddiogelach? Pa ham y mae gantho ef Gennadwyr, sef yw hynny Spiwyr ffel iawn, yn dirgel-ddisgwyl o fewn llysoedd, cynghorau, a chyfrinach stafelleu pob brenin ? Pa ham y mae ef, pan fynno fo, yn rhoi'r Twysogion Cristnogaidd yn erbyn eu gilydd, ag wrth ei chwanteu ei hun, yn aflonyddu'r holl fyd drwy gynnhwrf a chynhenneu? Pa ham y ef yn escumuno ag yn cymeryd fal Ethnig a Phagan pob Twysog o Gristion a ymwrthodd a'i lywodraeth ef? A pha ham y mae ef yn addo enaid rhydd a phardyneu cyn haeled a chyn helaethed i bwy bynnag ar a laddo un o'i elynion ef, mewn ffordd yn y byd? a ydyw ef yn cynnal Ymerodraetheu a Brenhiniaetheu, neu yw ef unwaith yn chwennychy heddwch cyffredin? Tiaddylid, ddarlleydd duwiol, fadde i ni, er dy fod yn tybied adrodd o honom-mi y petheu hyn yn chwerwach ag a geiriau duach nog a wedde i wyr Eglwysig eu harfer; oblegid mae'r destyn mor wradwyddus, ag awydd y Pab i ddwyn rhwysc yn y byd mor anrhaith-ddioddef ag na ellir traethu hyn yn llareiddiach nag a geirieu amgenach."

Ar ol gofyn rhes o gwestiynau duon, aiff