y cyfieithydd ymlaen i osod tipyn o hanes y Pab,— ffeithiau nas gallai eu gwadu:—
"Blin ydym yn adrodd y fath betheu ar rhain, a phoenus iawn fydde goffau holl gampau gwchion Pabau Rhufain. O ba blaid, ydolwg, oedd y sawl a wenwynodd yr Ymerodr Henri'r 7-fed wrth Gymuno? ag a wenwynodd y Pab Victor yn derbyn y caregl? ag a wenwynodd Ioan brenin y deyrnas ymma wrth yfed diod? Pwy bynnag, ag o ba blaid bynnag yr oeddynt, dieu nad oeddynt hwy na Lutheriaid na Zuingliaid. Pwy heddyw sy'n cynnwys Brenhinoedd a Thwysogion galluawg i gussanu ei draed bendigaid ef? Pwy sy'n peri i'r Ymerodr sefyll wrth ben ei farch; ag yn gorchymyni Frenin Ffrainc ddal y warthol iddo? Pwy a rwymodd mewn cadwyni Francis Dandalus, yr hwn ydoedd Ddûc o Venis, brenin Creta a brenin Cypres, ag a'i taflodd ef dan ei fwrdd i gnoi escyrn ymhlith cŵn? Pwy, nid ai law, ond a'i droed, a goronodd yr Ymerodr Henri'r 7-fed, ag a'r un troed a fwriodd y goron oddiar ben yr Ymerodr gan ddoedyd allu o hono-fo wneuthyr ymerodreu, a'u dad-wneuthyr hwynt fal y mynne efe? Pwy a barodd i Henri'r mab godi mewn arfeu yn erbyn yr Ymerodr Henri y pedwerydd ei dad ef, ag a wnaeth i'r mab ddal ei dad ei hun yn garcharor; a phwy wedi cneiffo a dirmygu'r Ymerodr a wnaeth ei fwrw ef mewn Mynachlog, lle, drwy newyn a nychdod a thrymder, y bu efe farw? Pwy mor frwnt aruthrawl a rodd dan ei draed wddf