Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnom-mi'r pryd hyn y mae Pardynnwyr y Pab, a'i Roddwyr, Ardrethwyr llattaion, ag ereill yr rhai sy'n tybied may elw bydol yw duwioldeb, heb wasanaethu Crist eithr eu bolieu eu hun. Gynt gyntoedd y bu elwaniannol i'r fath ddynion a rhain, a thybied y maent eu bod nhwy'n colli beth bynnag y mae Crist yn ei ennill. Am hynny mae'r Pab yn cwyno ddarfod i gariad perffaith oeri a fferru, er mwyn nad ydis yn talu ardreth iddo ef cyn helaethed ag y byddid arfer. O ran hyn y mae ef yn peri'n cassau ni fwya ddim fyth a'r allo, gan regu arnom a'n bwrw yn euog o Heresi, fegis y tybio y sawl nid ydynt gydnabyddus a'n hachos nad byw mo'n gwaeth ni. Etto er hyn y gyd, yn y cyfamser, nid oes mor cywylidd arnom ac ni ddylem mor cywylyddio o achos yr Efengyl. Herwydd mwy gennym am ogoniant Duw nog am fri dynion. Nyni a wyddom mai gwir yw'r holl betheu rydym-mi'n ddyscu, ag ni allwn-ni na mynd yn-nerbyn eyn cydwybodau eyn hunain, na dwyn tystiolaeth yn-nerbyn Duw. Canys o gwadwn-ni ddarn yn y byd o Efengyl Iesu Grist geyr-bron dynion, ynte a'n gwada ninne geyr bron ei Dad. Ag od oes rai a fynnant fyth gymryd achos anfodlondeb ag na allant ddioddef athrawiaeth Crist, deillion (meddwn-ni) a thwyswyr deillion yw'r rhai hynny; etto, nid anllai, rhaid i ni bregethu a gossod allan y gwirionedd o flaen pob peth, a hefyd ddisgwyl trwy ddioddefgarwch am farn Duw. Yn y cyfamser,