edryched y gwyr hyn beth a wnelont, a meddyliont am eu hiechydwriaeth, peidiont a chassau ag erlid Efengyl mab Duw rhag ofn iddynt gael di-wygwr a dialwr onaw ef yn ei achos ei hun. Ni ddioddefa Duw mo'i watwar. Y mae dynion yn canfod er ysdyddieu bellach, beth yr ydis arno. Am y fflam yma, pa fwyaf y cedwer hi lawr, fwy fwy y cyfyd ag y cynnydda hi. Ni wna eu hanffyddlondeb nhwy mo ffyddlon addewid Duw yn ofer. Ond os nhwy ni fynnant roi heibio hyn o galedrwydd calon a derbyn Efengyl Crist, diau ynte yr aiff Publicaniaid a phechaduriaid o'u blaen nhwy i wlad teyrnas nef.
Duw, Tad eyn Harglwydd Iesu Grist a egoro eu llygeid nhwy y gyd i allu gweled y gobaith sanctaidd i'r hwn y darfu eu galw, fal y gallom-mi y gyd yn un, ogoneddu'r un hwnnw sydd wir Dduw a'r un Iesu Grist, yr hwn a ddanfonodd ef i lawr attom o'r Nef: i'r hwn, ynghyd a'r Tad a'r Yspryd Glan y rhodder holl anrhydedd a gogoniant yn ollawl dragowydd. Amen." TERFYN.
Ar ddiwedd y cyfieithiad y mae ol-nodyn:—
"Yr araaithy fyddei yn fynech yn-geneu Sanct Asaph Episcop llan Elwy, DXC,—Y sawl a wrthladdant air Duw, cenfigenu y maent wrth iechyd eneit dyn."