Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Kyffin
ar Wicipedia

EDWARD KYFFIN.

YCHYDIG iawn sydd ar gael o hanes Edward Kyffin. Ond y mae un peth sicr am dano, sef iddo gyhoeddi rhannau o'r Salmau ar gân yn 1603, a phleser yw darllen ei ragymadrodd llithrig i'w lyfr. Teitl y llyfr yn llawn ydyw,

"Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd i'w canu ar ôl y dôn arferedig yn Eglwys Loegr. Simon Stafford a'i Printiodd yn Llundain dros T.S. 1603."

Yr oedd Edward Kyffin felly ym mlodau ei ddyddiau adeg cyfieithiad y Beibl i'r Gymraeg, yng ngwanwyn deffroad Cymru am addysg ysgrythyrol. Ei ran ef yn y deffroad yma oedd cyfieithu rhai o'r Salmau,—mewn Cymraeg glân, cadarn, ac mae'n fwy na thebyg mai ei ddymuniad cryf yn ei ragymadrodd am i ŵr mwy cymhwys nag ef gymeryd y gwaith i fyny a ysgogodd feddwl yr Archddeon Edmwnd Prys i droi Salmau Dafydd ar gân.

Credir fod Edward a Morus Kyffin yn ddau frawd; yr oeddynt yn byw yn yr un adeg, mae dull eu hiaith yn debyg iawn i'w gilydd, a roedd y ddau wedi meddwl am wneyd yr un gwaith o gynghaneddu llyfr y Salmau (gweler Morus Kyffin, tud. 57).