Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD EDWARD KYFFIN I'W PSALMAU CAN.

"At fy ngharedigion wlâd-wyr y sawl a garant Ogoniant yr Arglwydd, ag ymgeledd eu gwlad-iaith.

Wrth weled mor ofalus ydyw ieithyddion eraill am ei gwlad-iaith, a chynnydd yr efengyl drwy oll grêd, a bod y Saeson mor gymwynascar i'w gelynion y Spaeniaid ag iddynt brintio bagad o lyfre yn yr Yspaen-iaith a'u danfon ymysg y gelynion ar feddwl eu hynill at Dduw; a'r rhai a aeth a'r llyfre rheini at y gelynion, a fentriasant nid yn unig eu dâ a'u trafael ond eu hoedl hefyd ar fedr gwneuthur lles i Estrongenedl.

Pa faint mwy y dylem ni ymgeleddu ein hiaith ein hunain, yr honn a ddeffynodd y Goruchaf Dduw yn yr unlle yn y deyrnas honn ers seithgant ar hugain o flynyddoedd, ag ychwaneg ymysc cynnifer o amrafaelion cenhedloedd, terfyscoedd a dinystroedd a fu i'n mysg er yr amser hwnnw i geisio difa a dinystrio yr iaith a'i phobl yn llwyr. Yr hynn beth ni all yn nasiwn nag iaith ar sydd dan Grêd a Bedydd heddyw ddoedydd y cyffelyb. Am yr hynn yr ydym ni yn fwy rhwymedig i'r Arglwydd nag oll Bobloedd