y byd: ag nyni yn olaf ag yn ddiweddaraf am osod allan Ogoniant Duw yn ein hiaith ein hunain.
Ag wrth weled a chlywed mor brydferth ag mor hyfryd rydys yn moliannu Duw yn yr holl Eglwysi lle mae'r Efengyl yn cael rhyddid, ond Ynghymru yn unig, wrth ganu Psalmae Dafydd, hynny a wnaeth i mi (Er Gogoniant i'r Arglwydd a Chariad i'm Gwlad), ddangos fy ewyllys dâ yn cychwyn hynn o waith ar ddechre cynghanedddu hynn o Psalmae yn nesa ag ellais at feddwl yr Yspryd Glân, fel y cefais hwynt yn scrifennedig yn y Scrythurau.
Mi a rois y Psalmae prés ar gyfer y cynghanedd, ag a adewais lê rhwng pôb vers ai gilydd o'r cynghanedd, fel y gallo rhai celfyddach gymhennu a pherffeithio hynn a wneuthym i ofras-naddiad, er praw yn unig, ag er annog eraill (a fedrant yn well) ei hail-ddiwygu hwynt. Gan ddymuno arnoch bawb yn ol ei allu hyfforddi fy wyllys da i a'ch cyngor a'ch cymorth, i amlygu i'r byd eych serch a'ch cariad i Dduw a'ch Gwlad. Yr hynn bêth os gwnewch, chwi a ogoneddwch yr Arglwydd, chwi a fawrhewch eych gwlad, ag a'm cyssurwch innau, nid yn unig i fynd trwodd a holl gorff y Psalmae yn yr un rhyw gynghaneddiad (yr hwnn fesur gynghanedd sydd gymwysaf ei ganu gann yr holl Gynlleidfa ar un-waith) ond hefyd i léshâu fyngwlâd ymhellach ar ôl hynn mewn pethau duwiol eraill o'r Scrythur làn drwy obeithio gann gadw o Dduw nyni a'n hiaith