Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward James
ar Wicipedia

EDWARD JAMES.

MAE tywyllwch dudew yn aros ar hanes a bywyd Edward James, cyfieithydd medrus "llyfr yr Homiliau." Brodor o'r De ydoedd, derbyniodd ei addysg ym mhrif athrofa Rhydychen, ond ni wyddir a dderbyniodd urddau Eglwysig. Rhaid ei fod ym mlodau ei ddyddiau ddiwedd teyrnasiad y frenhines Elisabeth, canys cyhoeddwyd yr "Homiliau" yn 1606, a gwelodd yntau felly y Beibl yn Gymraeg a Phrotestaniaeth wedi cael y llaw uchaf ar y Babyddiaeth yn Lloegr, a gallu teyrnas Spaen wedi ei dorri. Fe ddwg amryw lenorion dystiolaeth uchel i werth ei waith. Dywed Gwilym Lleyn, Golygydd "Llyfryddiaeth y Cymry," am dano, " Y mae ei gyfieithiad o'r 'Homiliau' yn gyfieithiad rhagorol dros ben, ac yn teilyngu sylw pe na bai ond er mwyn ei briodedd wir Gymreig yn unig. Saif Edward James ar orsaf uchel fel gwasanaethwr ei gyd-genedl, yn ymyl Gwilym Salsbri, yr Esgob Morgan, a'r Esgob Parri; ac fel ysgrifenwr Cymraeg dilediaeth, nid yw yn ol i un o honynt." Pa bryd y bu farw, nis gwyr neb, ac os cafodd gareg fedd, y mae mwswg a glaswellt wedi tyfu drosti.