Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwyllodrus, yr hon sydd yn tywys i ofer-goel, trawsopiniynau, a delw addoliad. Yn yr Homiliau hyn y cynhwysir y prif byngciau o'n ffydd ni, ac o'n dyled tu ag at Dduw a'n cymmydogion; fel y gallai adrodd, datgan, a darllain yr Homiliau hyn, bregethu i'w pobl wir athrawiaeth; ac fel y gallai pawb o'r bobl wrth wrando, ddysgu'n union ac yn iawn anrhydeddu ac addoli'r Hollalluog Dduw, a'i wasanaethu yn ddiwyd. Yr Homiliau hyn hefyd, am eu bod mor fuddiol, a orchymynodd yr ardderchog Frenines Elizabeth eu hargraffu eilwaith [yn Saesneg, bid sicr]; a hi a roddodd yr un gorchymyn am eu darllain hwy ag a roisai ei brawd duwiol yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd bod ar y ddaear erioed Dywysog a ddangosodd ymhob peth arall fwy o zel Dduw, ac o ofal dros ei ddeiliaid, na'r Brenhin godidog ardderchog duwiol James ein Grasusaf Frenhin a'n Llywydd; felly yn y peth hyn ni ddangosodd efe ddim llai o'r fath zel a gofal nag a ddangosasai y Brenhin Edward VI., a'r Frenhines Elizabeth o'i flaen ef. O herwydd yntau trwy gyfraith eglwysig (fel y gellir gweled yn y 46 Canon a wnaeth y Gymmanfa Esgobion ac Eglwyswyr, a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain, Ffrainc a'r Iwerddon, yr hon a gadarnhaodd ei fawrhydi ef a'i awdurdod goruchel brenhinol) a rois orchymyn caled ar fod i bob Person, Ficar, a Churat, ddarllain yr Homiliau hyn bob Sul a gwyl (o ddiffyg pregeth) ymhob Eglwys Blwyf a Chapel o fewn ei