LLYFR Y TRI ADERYN.
Dirgelwch i rai i'w ddeall, ac i eraill i'w watwor; sef, Tri Aderyn yn ymddiddan—yr ERYR, a'r GOLOMEN, a'r GIGFRAN—neu Arwydd i Annerch y Cymry yn y flwyddyn mil a chwechant a thair ar ddeg a deugain, cyn dyfod 666.
Ymgydnabod
yr Adar.
Eryr. O BA le'r wyti (y Gigfran ddu) yn ehedeg?
Cigfran. O dramwy'r ddaiar, ac o amgylchu'r gweirgloddiau i ynnill fy mywyd.
Eryr. Onid tydi yw'r aderyn a ddanfonodd Noah allan o'i long na ddaeth yn ol fyth atto drachefn?
Cigf. Myfi yn wir yw'r Aderyn hwnnw, ac mae arnai dy ofn di, brenin yr Adar.
Er. Pam na ddoit ti yn ol at yr hwn a'th ddanfonodd?
Cigf. Am fod yn well gennif fwytta cyrph y meirwon na bod dan law Noah ai feibion.
Er. Di wyddost (O, Gigfran!) i'r golomen ddychwelyd yn ol, ai deilien wyrdd yn ei phig.
Cigf. Beth er hynny? nid yw hi ond aderyn gwan ymysg ehediad y ffurfafen; rwi fy hun yn gryfach, ac yn gyfrwysach o lawer.
Er. Ond yr wyti yn bwytta cig y meirwon, ac yn ymborth ar y budreddi annaturiol.