Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lyfr,—y byddai raid iddynt symud ar fyrder i ffermydd llai, dan stiwartiaeth ywen ym mynwent y llan.

Ar gyfrif y gwres annioddefol y cyfeiriwyd ato, gellir dywedyd mai yn y trofennau y buont fyw; ac yn y trofennau hyn y clawdd terfyn oedd llinell y cyhydedd. O'i ddeutu ef yr oedd y gwres boethaf. Nid llinell ddychmygol oedd cyhydedd y clawdd terfyn, er fod y dull rhwydd yr âi defaid y Frwynos drosto yn awgrymu hynny; ac yn wir, gwaith y llu mawr o idealists gwlanog oedd yn niadell Pitar Huws yn anwybyddu ffeithiau, ac yn gomedd credu ym modolaeth sylweddau fel drain a mieri, polion a gwifrau, a wnaeth fywyd Tomos Bifan yr ochr arall i'r clawdd yn chwerwder chwerw.

Hen glawdd corffol ydoedd, a'i drwch yn peri i ddyn feddwl am wrthgloddiau amddiffynnol ym mrwydrau yr oesau gynt. Nid terfyn unionsyth ydoedd, ond igam-ogam, a'i osgo, wrth edrych arno o'r ochr arall i'r cwm, yn debyg i neidr braff yn gwingo i gyfeiriad yr afon yn y gwaelod. Ond er fod y clawdd yn fawr a thrwchus, prin ac anwastad oedd y gwrych ar ei war, ac yr oedd yn ddiffygiol felly yn yr hyn a ystyrir yn gymhwyster anhepgorol mewn clawdd i'r swydd bwysig yr oedd hwn ynddi. Yr oedd digon o fieri ar hyd-ddo, ond yr unig wasanaeth—pe gwasanaeth hefyd—a wnai'r rheini oedd codi treth y gwlân oddiar bob perchen cnu a ymwthiai trwyddynt. Perthyn i Fodrach yr oedd y clawdd terfyn, ac ni ddisgwylid i Pitar Huws