fil a mwy o gampau cyfryngol a dialeddol—a'r cwbl ar ei eistedd ar y pec. Dywedai rhyw beth wrtho yn ddistaw yn ei ddiniweidrwydd fod ganddo ef fwy o hawl na neb ohonynt i ofidio, ac ymprydio, ac ymglymu am y lle, oherwydd efe oedd wedi arwain y defosiwn teuluaidd yn ddifwlch bob bore am ugain mlynedd. Yr oedd yna rywbeth wedi deffro ynddo ynghanol yr ystorm tebyg i eofndra y gwir offeiriad, a dechreuodd feddwl ynddo ei hun beth tybed allai wneuthur i ragflaenu yr aflwydd yma oedd ar oddiweddyd teulu Bryn Marian. Meddyliai am bob math o gynlluniau i'w gwareda; ac yng ngonestrwydd ei gydymdeimlad â hwynt, yn gymysg â thipya o benbleth am ei ddyfodol ei hun, fe fu dipyn yn daer lawer pryd yn unigedd yr ysgubor ar y Gŵr sydd a'r wyntyll yn Ei law. Ac,. fel arfer, yr oedd y waith hon eto wedi troi yn ddiarwybod yn ei fyfyrdodau oddiar ffordd lydan ei ddychmygion gwylltion ei hun i ffordd gul ymgyfarchwel â Duw.
"Siams," ebe llais yn nrws yr ysgubor, "tyd i 'nol tê!"
Llais Elin ydoedd. Ac wrth weld Siams yn yr ystum hwnnw, mor bell o ddull ac agwedd un yn dyrnu, gofynnodd,—
"Be' sydd arnat ti? Wyt ti'n sal?"
Cododd y synfyfyriwr ei ben, a'i wyneb fel wyneb dyn wedi cael gweledigaeth, a meddai,—
"'Rydw i yn mynd at y stiwart heno; ddoi di hefo fi?"