Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"At y stiwart," ebe hithau, "i be'?"

"I gael y ffarm yma i dy fam," ebe yntau.

"'Dwyt ti mo'r dyn i fynd at y stiwart, Siams bach," ebe Nel; "a pheth arall, dasa mam yn cael y ffarm, sut y medra' hi fyw yma ar ol i bopeth gael 'i werthu? Rhaid iti gael rwbath heblaw ffarm i ffarmio."

"Hidia di befo hynny 'rwan," ebe yntau; "ddoi di?"

"Tyd i 'nol tê," ebe hithau, "mi deimli yn well ar ol cael cwpaned."

"Hwda, Nel, un gair," meddai Siams pan oedd hi yn troi ei chefn i fynd o'i flaen i'r tŷ,—" Dim un gair wrth dy fam na neb arall, cofia; os awn i, mi awn heb i neb wybod."

"O'r gora." ebe hithau. A ffwrdd a hi.

At y stiwart yr oedd Siams am fynd er pob ymgais o eiddo Nel i'w berswadio i beidio; a'r diwedd fu iddo berswadio Nel i fynd i'w ganlyn. Stiwart newydd ydoedd—nid oedd ond rhyw fis er pan ddaethai i'r wlad, ac ni wyddai Siams pa un ai Cymro ynte Sais ydoedd—dyna un rheswm paham yr oedd am i Nel fynd gydag ef.

Daeth Siams am ei swper y noson honno yn fwy prydlon nag arfer, a threthwyd ei amynedd yn disgwyl am ymddangosiad y bara llaeth. Fel rheol, y bara llaeth fyddai yn hir ddisgwyl am Siams; ac ambell i damaid o fara haidd du, mwy rhyfygus na'r gweddill, yn sefyll ar ysgwyddau y tameidiau eraill, ai ben drwy'r caws, i wylio dynesiad y