Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bwytawr, ac i rybuddio'r lleill i lechu goreu gallent dan y caws a'r gloefon. Ond heno, y bwytawr oedd yn disgwyl. Synnodd Gwen Ifan ei weld yn dod at y bwrdd mor gynnar, oherwydd gwyddai mai trwy lu o demtasiynau i ymdroi y deuai i'w swper bob amser. Ar ol cryn ddisgwyl, daeth y bara llaeth, ac yr oedd Siams wedi gorffen bwyta cyn i'r gwas bach ddod i'r ty. Aeth yn syth i'r lloft i newid ei ddillad, ac i baratoi ei hun at y siwrnai.

Pan ddeallodd Wil fod Siams wedi bwyta ac wedi mynd i fyny i newid heb son dim wrtho ef nac wrth y gwas, gwyddai fod yna rywbeth gwerth ei wybod. Bwytaodd ei ddogn ei hun yn gyflymach nag arfer, ac mewn llais llawn o gydymdeimlad, gofynnodd, gan wincio yr un pryd ar y gwas, am ganiatad Gwen Ifan i fynd i'r llofft i edrych am Lewis Dafydd. 'Roedd ystafell wely Siams wedi cael ei gwneud yn hospital ward i Lewis Dafydd ar ol y codwm, oherwydd fod dau wely ynddi. Cysgai Siams yn un, a chafodd y tyrchwr nodded ac ymgeledd yn y gwely arall. 'Roedd rhai dyddiau wedi mynd heibio er y ddamwain, ac yr oedd Lewis Dafydd yn gwella yn rhagorol, a'i anaf yn llai nag a tybid ar y cyntaf; ond gorfodai y meddyg ef i gadw yn llonydd ar ei led-orwedd, oherwydd fod ei ysgwydd wedi ei thaflu o'i lle.

Aeth Wil i fyny, nid yn hollol amddifad o gydymdeimlad â Lewis Dafydd, ond, yn bennaf, o ddireidi a chwilfrydedd. Erbyn iddo fynd yno, 'roedd Siams yn moesymgrymu i'w ddelw ei hun