Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y glas, difrifwch dwfn yn eistedd ar ei ael, a thrwch da o sebon yn peri i'w wyneb ddisgleirio. Gwasanaeth y shafio oedd yn cael ei gynnal, a hynny gyda'r holl benydiau a defodau arferol. Gwelodd Wil, wrth holi helynt Lewis Dafydd, fod yr olwg ar yr eilliwr yn goglais y claf, ac wrth graffu, gwelai dipyn o ddireidi yng nghil llygad y tyrchwr, a theimlodd oherwydd hynny fod ganddo fymryn o hawl i arfer ei ddull cyffredin i holi a phoeni tipyn ar Siams.

"Be' sy'n bod, Siams? lle 'rwyt ti'n mynd?" ebe Wil; "'rwyt ti'n fwy slei hefo dy neges heno nag arfer."

Nid oedd yn gyfleus iawn i Siams ei ateb, yn bennaf am na wyddai pa ateb i roi,—'roedd y gorchwyl oedd ganddo mewn llaw hefyd yn gofyn am wefusau sefydlog; ac felly, yng nghysgod yr anghenrhaid diweddaf, gadawodd Siams i'r cwestiwn hwn, a chwestiynau ereill o eiddo Wil, fynd heibio heb atebiad.

"Pa'm 'rwyt ti'n shafio heno?" gofynnai Wil wedyn; ac ychwanegai, gan droi at Lewis Dafydd,—

Ydi hi ddim yn ddy' Sadwrn, ydi hi?"

Nag ydi, dydd Mercher," ebe'r claf, a chysgod gwên ar ei wyneb.

"Mae rhai pobol yn mynd yn falchach fel mae nhw yn mynd yn hŷn, Lewis Dafydd," ebe Wil. "Mae arna' i ofn fod Siams yn crafu 'i grefydd i ffwrdd hefo'r rasal yna—mae 'o wrthi hi yn shafio 'rwan bob yn eildydd bron."