ofn colli rhywbeth mwy diddorol yn y gegin pan oedd Siams yn cychwyn. "Rydw i'n siwr fod yn well gin Elin gyfarfod bwgan na cherdded hefo un, yn dydi?" meddai, gan apelio at y ferch.
"Tyd, Siams," ebe hithau, "mae ambell i wyneb na 'naiff dŵr a sebon na rasal loewi dim arno."
"Debyg iawn," ebe Wil, "dasa ddim ond fy wyneb i,—mae o'n bictiwr fel y mae o."
"Fel y mae o," meddai Nel, gyda phwyslais llawn o wawdiaith chwareus; a diflannodd Siams a hithau i'w taith.
"I ble 'roedd Siams yn mynd, Wil?" ebe Gwen Ifan.
"Dest y peth faswn i yn leicio wybod," ebe Wil; ac aeth i'r drws i edrych ar y ddau yn croesi ar letraws y fron am y briffordd. Daliodd y gwas bach i syllu arnynt yn hir. Cerddai y ferch yn hoew ac ysgafndroed, ond troetrwm ac afrosgo oedd yr hwsmon; ac felly y diflannodd y ddau yn y pellter.
'Roedd cysgodau'r hwyr yn hel yn brysur erbyn i'r ddau gyrraedd y llan. Gwnaeth Elin ei neges, ac yna aethant i gyfeiriad tŷ y stiwart, yr hwn oedd ychydig o'r neilltu. Cerddai ac ymgomiai Siams fel un yn meddu gradd dda o hyder, ac er nad oedd ei gerddediad yn wisgi, gallesid dweyd arno nad oedd yn ei fynwes ronyn o ofn i'r siwrnai droi yn siwrnai seithig. Pryderus a gwangalon oedd Elin. Credai mai nid Siams oedd y dyn i fynd ar neges fel hyn, er y tystiai ei chydwybod, pe buasai caniatau rhyw ffafr arbennig yn y cwestiwn, y buasai yn haws