Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddi hi ildio i'w eiriolaeth anfedrus ef nag i ymbiliau neb arall. Ond yr oedd hi yn ei adnabod ac yn ei garu, ac am hynny 'roedd yn hawdd i Siams gael ffafr yn ei golwg. Ni wyddai y stiwart ddim am dano, ac ofnai i'r olwg wladaidd, hwsmonaidd, ddiniwed oedd arno, ei wneud ef a'r achos oedd ganddo yn anghymeradwy. Yr oedd yn gas ganddi fynd gydag ef, ond yr oedd yn gasach ganddi wrthod. Ceisiodd droion ei berswadio i droi yn ol,—'roedd hi wrth y gwaith hwnnw pan oedd Siams yn agor y llidiart arweiniai i ffrynt y tŷ, ond ni fynnai yr hwsmon son am y fath beth.

"Na, mi treiwn ni o," meddai, "a mi fyddi ditha cyn falched a dy fam pan lwyddwn ni;" a churodd yr eiriolwr y drws.

Cawsant dderbyniad diymdroi, ond hysbyswyd hwy nad oedd Mr. Ellis y stiwart ddim i mewn ei hun, ond fod ei nai, Hywel Ellis, yno, a chaent ddweyd eu neges os dewisent wrtho ef.

Cyn hir daeth y nai atynt i'r ystafell, a chyn iddo gael amser i ofyn dim iddynt, gofynnodd Siams, "Ydach chi'n dallt Cymraeg, syr?" oherwydd dyna'r cwestiwn oedd yn peri mwyaf o bryder iddo ef. Rhoddodd atebiad Hywel Ellis fodlonrwydd mawr i Siams, a theimlodd yn bur gartrefol ar unwaith.

"O ba ran o'r wlad yr ydech chi'ch dau yn dod?" gofynnai y dyn ifanc.

"O Fryn Marian," ebe Siams. "Hwsmon yno ydw i," ychwanegai, "a'r ferch ydi Nel yma. Wedi dwad yma yr ydan ni i ofyn am y ffarm acw