i mistres. Dydi hi yn gwybod dim y'n bod ni wedi dwad."
Sylwodd y dyn ifanc fod y ferch yn gwrido, ac ebe efe wrthi,—
"Ydi'ch mam ddim yn gwybod am hyn?"
"Nag ydi," ebe hithau. "Siams sy' wedi trefnu yr ymweliad yma, heb i mam wybod, a 'roedd raid i minna ddod hefo fo."
"Fasech mam yn leicio aros acw?"
"Basa yn arw iawn," ebe'r ferch.
Eisteddodd nai y stiwart yn y gadair ddwy-fraich, a thaniodd sigar. 'Roedd rhywbeth yn ei ystum a'i edrychiad oedd yn peri i Siams ac Elin deimlo ei fod yn cymeryd diddordeb yn eu hachos, ac yr oedd y ffaith mai un o fath Siams oedd yn arwain y ddirprwyaeth yn ychwanegu at y diddordeb.
Hwsmon wyt ti'n ddeyd wyt ti yn y lle yma, —be gelwir o hefyd? Bryn Marian?"
"Ie, Syr," ebe yntau, "a 'rydw i yno ers dros igian mlynedd, a 'dydw i ddim yn fodlon i'r hen deulu fynd odd' acw os medra' i 'neud rwbath i'w cadw nhw yn y lle. Mae rhai yn deyd mai gwr y Swan sy'n mynd i gael y ffarm, ond fedra' i ddim credu hynny, mae o wedi cael digon a gormod o Fryn Marian pan oedd mistar yn fyw."
"Gwraig weddw ydi'ch mam?" gofynnai Hywel Ellis i Elin.
"Ie," ebe hithau," a mae hi yn awyddus i aros acw dasa bosib, ond 'doedd gyni hi ddim calon i ddwad yma i ofyn ei hun, na chalon chwaith i ofyn