Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wneuthur dim ond byw yn heddychol yr ochr arall iddo; ac ni ddisgwyliai neb oedd yn adnabod Pitar iddo wneuthur hynny. Dyledswydd Tomos Bifan oedd ei gau, a gwnaeth osgo digon gonest i gyflawni ei ddyledswydd lawer tymor, ond rywsut yr oedd pob ymgais o'i eiddo yn troi'n fethiant. Er blinder ysbryd iddo fel caewr, yr oedd praidd Pitar yn feirniaid craff ar unrhyw gyfansoddiad mewn drain, a chaent bleser digymysg yn cyhoeddi adolygiad anffafriol ar ei waith, a hynny dan ei drwyn; torrent trwy y mannau gwan ar ei ol o fewn ychydig latheni i'r fan lle byddai ef yn fawr ei chwys yn cau hefo'i gryman a'i ddyrnwyl. Plannodd ddrain yno droion; ond yn ofer, byddent yn marw heb ddeffro, ac eithrio rhyw hanner dwsin, un yma ac acw. Gosododd bolion a gwifrau yno, a thynhaodd hwynt fel tannau telyn, ond "telyn a dorrwyd yn gynnar fu hi. Trodd defaid y Frwynos yn delynorion mor selog fel yr oedd amryw o'r tannau wedi torri cyn pen deufis. Ac ar ol gwasanaethu tymor neu ddau blinodd y polion sefyll yn unionsyth; credent eu bod wedi cynnal y gwifrau yn ddigon hir, a'i bod hi'n bryd bellach i'r gwifrau eu cynnal hwy. Dechreuodd lliaws o honynt led-orwedd, ac o'r diwedd aeth pawb o honynt i bendwmpian, ond y ddau bost tynnu yn neupen y clawdd; safodd y rheini'n hir ar ol cwympo pawb arall. Y ddau swyddog yma yn unig oedd yn aros yn fuan iawn o holl fyddin sefydlog Twm Bifan. Am y milwyr cyffredin, yr oedd Ned y gwas bach wedi gweld yn