"'Fyddi di'n smocio?" ebe'r dyn ifanc yn garedig, ac estynnodd sigar iddo yr un pryd.
"'Roedd Siams ar ei gyngor pa un a gymerai hi ai peidio, ac atebodd y ferch drosto,—
"Ydi, mae o yn smocio, ond 'rwy'n siwr na fu o 'rioed yn smocio sigar."
"'Cymer un i dreio am dro," ebe yntau; a chymerodd Siams hi.
'Roedd yr hwsmon mewn penbleth yn methu gwybod pa ben i danio, a methai gael gwynt yn yr un o'r ddau ben. 'Roedd Elin yn wrid ac yn wên wrth ei wylio, ond cafodd Siams gyfarwyddyd yn yr un man ag y cafodd y sigar, a thaniodd.
Treuliodd Siams ac Elin amser difyrrach tu fewn i furiau tŷ y stiwart nag oeddynt wedi ddychmygu pan ar y ffordd yno. Aeth yr amser heibio yn gyflym, a sylweddolodd Elin, pan oedd Siams wedi llwyr ymgolli yn y sigar a'r sgwrs, ei bod yn hen bryd iddynt gychwyn adref.
"Diolch yn fawr i chi, Syr, am fod mor ffeind wrthon ni, ac os medrwch chi neud rywbeth dros mistres, mi wn y gnewch chi o." A chychwynnodd y ddau adref.
'Roedd Siams yn dychmygu yn ei afiaith wrth ddod dros y trothwy, a'r sigar rhwng ei fysedd, mai efe oedd stiwart y stad. Gresynnai ei fod yn gorfod smocio hon allan o olwg Wil y gwas bach. Credai y buasai cyhwfan sigar a thân arni yngwydd Wil yn ddigon o gosb arno am yr holl ddireidi wnelsai yn ystod ei fywyd, a dymunai yn ddistaw am i rag-