Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

luniaeth geryddu Wil yn gyfiawn trwy ei arwain i'w gyfarfod ef cyn i'r sigar ddarfod; ond, yn anffodus, ni ddaeth y farn hon o eiddo Siams i ben. Rhwng y sigar a'r rhagolwg am lwyddiant yn ei genhadaeth, cerddai Siams tua thre fel dyn wedi cael tipyn gormod; a diolchai Nel yn ei chalon fod y ffordd yn weddol glir heb fawr neb yn ei theithio y noson honno ond hwy eu hunain.

"Mae Bryn Marian mor sâff a dim i dy fam 'rwan, Nel," ebe Siams, pan ddaeth i goed y Plas, a dechreuodd floeddio rhywbeth am wr y Swan nes oedd y lle yn diaspedain, a thrwy fawr drafferth y llwyddodd Elin i'w ddistewi.

"O'r gora, os na chai o waeddi allan, 'roedd o'n bound o neud row wedi mynd i'r lloftt, er mai hospital Lewys Dafydd oedd hi;" a bygythiai Siams gadw yr hen lanc anffodus hwnnw ar ddihun tan drannoeth i ddathlu y llwyddiant oedd yn debyg o ddilyn ei ymweliad â thy y stiwart.

Erbyn iddynt gyrraedd Bryn Marian, 'roedd pawb wedi mynd i'w gwelyau, ac erfyniai Nel ar Siams fynd i'w wely yn ddistaw, a pheidio gwneud helynt.

Pan aeth yr hwsmon i'r lloft, 'roedd Lewys Dafydd yn chwyrnu cysgu yn hapus ddigon, ond 'roedd Siams o'r farn fod yn werth iddo ei ddeffro i weld stwmp y sigar, ac i gael tipyn o'r hanes. Cydiodd âg un llaw,—nid yn rhy dyner,—yn nhrwyn yr hen lanc, a daliodd weddillion y sigar i fyny yn fuddugoliaethus yn y llaw arall,