Rywbryd cyn plygain, deffrodd Siams o ganol ei helbulon, a goleuodd y ganwyll. Ar ol gwneud yn siwr fod y tyrchwr yn cysgu, a'r tyrchwr yntau yn rhoi pob cefnogaeth i'r syniad trwy ddechreu chwyrnu yn rhagrithiol, estynnodd yr hwsmon y stwmp sigar o boced ei wasgod oedd ar gadair yn ymyl. Rhoddodd ei drwyn—trwyn y stwmp—yn y ganwyll. a thrwy drafferthu tipyn i'w sugno, a sugno 'run faint ar ei fys a'i fawd, gan fyrred oedd y stwmp, llwyddodd i gael rhyw fath o fygyn am ennyd fer, ond 'roedd gweddillion y sigar mor gwta fel y bu raid i'r hwsmon, er mwyn heddwch theimladau da yng nghymdogaeth ei drwyn, ddiffodd y tipyn tân oedd arno. Ar ei benelin yn ei wely yr elai Siams trwy y seremoniau hyn, a Lewys Dafydd, o gwr tywyll yr ystafell, trwy gil amrant, yn gwylio popeth. Toc, cododd Siams y ganwyll hefo'i law, a daliodd hi fel search-light ar wersyll y gelyn i wneud yn siwr unwaith eto nad oedd yno ddim ysbïwr ar y gobennydd gyferbyn. Atebodd Lewys Dafydd yr ymchwiliad hwn trwy wneud cyd-wybod i chwyrnu yn fwy argyhoeddiadol. Ar ol cael tawelwch i'w feddwl ar y pen hwnnw, rhoddodd yr hwsmon rhyw led-tro yn ei wely, eisteddodd i fyny, a chynygiodd wrando ar ei lais ei hun, gan nad oedd yno neb arall i wneud y gwasanaeth hwnnw,—
"'Pwy fasa'n meddwl! Siams ar 'i hen sodla yn debyg o gael y ffarm i Gwen Ifan, ac yn cael sigar gin nai y stiwart. Go lew fyth o'r fan 'ma. Bachgan clên hefyd. Be' feddylith yr hen dyrchwr