tybad pan ddaw o i ddallt? Hy (gyda threm ys—goewedd i gyfeiriad y chwyrnwr), choelith o byth; ond mi fydd raid iddo fo." (Ffit o gosi ei ên mewn distawrwydd,—Lewys Dafydd yn dal i chwyrnu, ond yn cymeryd y cyfle i newid y cyweirnod am un îs, er mwyn clywed ymson yr hwsmon yn well).
"Biti o'i hwyl na fasa gin mistres ddigon bres i droi trwyn gŵr y Swan cyn y sêl. Be' fydda i mi ofyn 'i gyngor o (nód i gyfeiriad y tyrchwr), mae o'n hen ben go arw. Na, mi 'rosa i dipyn eto i weld sut y daw hi. Be' fydda i mi gonsyltio Wil?" a phlygodd Siams i'w ddwbl gan chwerthin pan ddaeth y syniad o ddwyn Wil i'r gyfrinach ar draws ei feddwl.
Ar hynny dyna gnoc ar y pared yr ochr arall,—Gwen Ifan yn galw ar Siams i godi, ac yntau yn ateb.
Credai y tyrchwr fod hwn yn amser cyfaddas iddo ef gogio deffro, a diolchai am y cyfle. Ar ol ystwyrian, troi a throsi, a rhwbio ei lygaid, mentrodd hysbysu y ffaith ei fod yn effro trwy ofyn i Siams faint oedd hi o'r gloch; a chyn iddo gael amser i ateb, gofynnodd iddo wedyn, "Lle buost ti mor hwyr neithiwr?"
"Yn nhy y stiwart," ebe yntau.
"Be' oeddet ti'n neud fan honno?"
"Smocio sigars," ebe Siams.
"Dyn—dyn," ebe'r tyrchwr, "'rwyt ti'n mynd ymlaen yn y byd yn arw. Pa siwt wyt ti am roi am danat heddyw?"
"O, 'r hen resi," ebe Siams, gan amneidio â'i law at grogle y trowsus rhesog.