Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel arfer ar y bwrdd gwyn di-lian o flaen Siams, a dododd ei spectol a'i breichiau ymhleth arno. 'Roedd y cwmni yn awr wedi gwisgo gosteg fel dilledyn; a cheisiai y sospon lle 'roedd llaeth y lloi yn cawsio yn ddistaw ar ffon y grat berswadio y crochan tatws moch oedd yn ei ymyl i ferwi yn dipyn distawach i'r tân. Clustfeiniai y tyrchwr yn y llofft,—gwyddai fod y gwasanaeth ar ddechreu, ac er nad oedd rhyw lawer iawn o grefydd yn ei groen, teimlai yn awyddas i gyfrif ei hun yn un o gwmni y ddyledswydd. Yr oedd newydd dderbyn ei forebryd o law garedig Elin, ac wedi ei fwynhau. 'Roedd wedi gwrando ar ffolineb Siams gefn nos, ac wedi chwerthin dan y dillad am ei ben, ond carai ef oblegid hynny yn fwy na chynt, a gwrandawai yn astud ar lais yr hwsmon yn esgyn i fyny'r grisiau.

Agorodd Siams y Beibl yng nghymdogaeth y Salmau, a dechreuodd ddarllen lle disgynnodd ei olwg gyntaf,—"Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys y'nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a'm hamddiffynfa ydyw fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. Canys efe a'th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddiwrth haint echryslawn. A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi dïogel; ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti." A darllenodd y Salm yn hamddenol drwyddi. Caeodd y Beibl yn sydyn,—"Dyna hi i chi," meddai, gan dynnu a chau ei spectol, " yr hen Salm ffeindia yn y byd,—'does eisio mo'i gwell hi byth." Aeth ar ei liniau, a phawb o'r cwmni yr