Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un modd, ond y gwas. 'Roedd y gwas bach yn ddigon eiddil i droi ar ei liniau rhwng y bwrdd a'r ffenestr, ond gormod camp i'r gwas oedd hynny, a chymerid ef yn esgusodol. Bu gan Wil flys lawer tro trugarhau wrtho ei hun a pheidio penlinio, a gwnaeth osgo unwaith i eistedd fel y gwas yn ystod y weddi, ond deallodd yn bur fuan oddiwrth dwlciadau clun y gwas nad oedd y cydymaith hwnnw yn ffafriol i gynnydd anghydffurfiaeth ar y ffenestr, a bu raid i'r gwas bach, er dirfawr siom, ufuddhau i'r awdurdodau goruchel, a dioddef adfyd gyda Siams a'r forwyn trwy benlinio yn y dull cyntefig.

Crybwyllwyd mai yr un weddi fyddai gan yr hwsmon bob bore ar ddyledswydd gweddi wedi dod i'r ffurf hawddgar oedd arni trwy ugain mlynedd o natural selection; ond yr oedd yn weddi a bywyd ynddi. Yr un weddi a'r un wyneb oedd iddo bob dydd, ond 'roedd yr amrywiaeth na cheir mohono ond yn "ol ei fysedd Ef" ar y naill a'r llall. Gweddiai hi y bore hwn gyda rhyw naws dieithriol. Deuai ambell bwyslais yma ac acw ynddi na fedrai neb ond Nel ei ddeall yn iawn, er y byddai deongliad Lewys Dafydd yn y llofft yn lled agos i gywir. 'Roedd y gwas bach â'i ben rhwng ei ddwylo ar fainc y ffenestr wedi dwyshau, ac ofnai yn ei galon i Siams orffen gweddio cyn i'w lygaid direidus ef gael amser i sychu. Pan oedd y gweddiwr yn cloi y weddi i fyny, dyna swn traed ceffyl ysgafn ar y palmant yn y buarth.