dda lusgo eu cyrff fesul un i'w crematio dan ffwrnes tatws y moch.
Ond pan oedd drain a physt yn marw ac yn braenu er pob gofal a swcwr ar war y clawdd, yr oedd yno drefedigaeth o gwningod, a'u lloches yn ei ymysgaroedd, yn ffrwytho ac yn amlhau er pob erledigaeth. Yr oedd yr hen glawdd wedi ei ridyllio ganddynt, a'r tyllau-yn fawr ac yn fân-yn rhy luosog i ddychymyg yr un heliwr. Yr awdurdod uchaf ar y mater yn y wedd yma yn ddiau oedd Don- ci'r Frwynos. Yr oedd ganddo ef, mae'n wir, wybodaeth gyffredinol dda am dyllau a llwybrau cwningod ymhob clawdd o fewn cylch o ddwy filltir o gwmpas cartre—gwybodaeth a gasglodd rhwng difri a chware pan oedd rhwng hanner blwydd a dwyflwydd oed; ond am saith mlynedd ar ol hyn, gwnaeth y clawdd terfyn yn faes astudiaeth arbennig, ac ni fedrai ddywedyd, na'r un ci arall ddywedyd am dano, mai yn ofer y llafuriodd. Dychwelodd adre oddiyno ganwaith yn fwy buddugoliaethus na chyfforddus ar ol bod yn gwledda ar yr hyn a ddigwyddasai iddo o'r da. Ond er ei holl gydnabyddiaeth a "daear " y clawdd terfyn, yr oedd yn rhy gyfrwys i gredu ei fod yn gwybod popeth yn ei chylch. Byddai yno ryw dwll newydd bob dydd, a chai Don drafferth nid bychan i ddilyn symudiadau newyddion yr oes yn y tyllau a'r teithiau gwningodogaethol hyn; a phan aeth yn rhy hen a methiantus i ennill ei fywoliaeth a byw yn annibynnol wrth hela ynddi, daliodd i fynd yno bob dydd gyda