Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII.
NEWYDDION DA.

A

AR ol i Siams ac Elin droi tuag adref y noson y buont yn eiriol dros Gwen Ifan, eisteddodd nai y stiwart yn nghadair ddwyfraich ei ewyrth, cododd ei ddeutroed ar gadair arall, a dechreuodd syllu yn ddyfal i lygad y tân, lle 'roedd boncyff ffawydd ar hanner llosgi, a'r nôdd yn suo berwi ar ei goryn. Ond nid am y boncyff y meddyliai. Meddwl yr oedd am y ddeuddyn oedd newydd groesi y rhiniog. Mor ddiddorol oedd yr olwg arnynt—yr hwsmon mor wladaidd a naturiol, a'r ferch yn ei ganlyn mor anwyl a dirodres. Ni fu eu harosiad yn y tŷ ond byr, ond aeth y ddau mewn byr amser yn agos at galon y llanc—nid y ddau ar wahan, ond y ddau gyda'i gilydd. Rhywbeth yn y cyfuniad a'i swynodd gyntaf. Dygid i'r amlwg anwyldeb y naill gan bresenoldeb y llall. Teimlai awydd cryf i gael tipyn o smaldod serchog hefo'r hwsmon pan oeddynt yn y tŷ, ond ofnai i'r ferch ei gamfarnu; ac wedi iddynt