ymado, gofidiai ambell foment na fuasai wedi mynd i hebrwng ychydig arnynt, a'u cymeryd un ymhob braich. Ni fynasai wneud hynny mae'n wir, ond 'roedd y syniad yn gyson â'i deimladau ar y pryd, a chaffai lawer o fwynhad wrth ddychmygu ei hun yn cerdded yn fath o gwplws dynol rhyngddynt. Ond torrwyd ar ei fyfyrdodau gan sŵn olwynion cerbyd ei ewyrth yn y ffordd gyferbyn.
Pan ddaeth y stiwart i'r tŷ, dygodd Hywel achos Bryn Marian i'w sylw heb lawer o goll amser, ond ni chafodd gyfle i eiriol drostynt, yr hyn oedd yn beth siomedigaeth iddo. Dywedodd ei ewyrth wrtho fod y sgweiar ac yntau wedi bod yn trafod gosodiad Bryn Marian, a'u bod wedi penderfynu rhoddi cymeriad y fferm i'r weddw, er i Mr. Morgan y Swan gynnyg rhent blwyddyn bob hanner blwyddyn am dani. Cafodd y nai ganiatad i fynd i Fryn Marian drannoeth i ddweyd hynny wrthynt, phedolau ei ferlyn ef oedd yn clepian ar y palmant pan oedd yr hwsmon yn cloi ei weddi i fynny.
Wil oedd y cyntaf allan o'r tŷ, a phan welodd y marchog y gwas bach, cododd ei fŷs arno, a phrysurodd yntau ato.
Ydi'r hwsmon hyd y fan 'ma?"
'Ydi, Syr," ebe Wil.
"Galw arno fo, nei di?"
Trodd Wil ar ei sawdl.
"Aros funud," ebe'r marchog, "faint o ferched sy' 'ma?"
"Un," ebe'r gwas bach.