Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu Wil mor amryfus a mynd yn rhy agos ato dan chwerthin yn angrhediniol; gwelodd gweddillion yr hen ddyn yn Siams—heb i Siams rywfodd sylweddoli—gyfle i wastatau cyfrifon blynyddoedd hefo'r bychan, a rhoddodd glustan iddo nes oedd yn troi, ac yn disgyn yn daclus wrth droed y grisiau. "Be' sy' arnat ti, Siams, mewn difri?" ebe Gwen Ifan.

"Rydw i'n barnu fod stagars arno fo fel sy' ar Captyn," ebe Wil, a ffodd am y drws, gan rwbio ei glust.

"Mistres," ebe Siams, gan daflu cipolwg tua'r drws fel pe buasai yn disgwyl Wil yn ei ol i gynnyg y glust arall iddo,—" Chi sydd i fod yn Bryn Marian yma. Nai y stiwart ydi'r dyn diarth yna, wedi dwad i ddeyd. Dowch ato fo gael i chi glywad y'ch hun."

Aeth Gwen Ifan allan.

Dyma mam," ebe Nel.

"Wedi dwad yma 'rydw i," ebe yntau, "i ddeyd mai chi sydd i gael y ffarm yma eto."

"Diolch yn fawr iawn i chwi," ebe hithau, "dyna'r newydd gora glywis i ers llawer dydd; mi allaf fentro llawenhau am dipyn, er y gall y dyfodol fod yn ddigon tywyll."

"Fydd hi ddim yn dywyll hefo dau fel hyn i gymryd gofal o honoch chi," meddai yntau.

"Hefo tri," ebe Wil oddiar risia'r 'sgubor tu cefn iddo. 'Roedd y gwas bach wedi gosod ei hun yn y fan honno i anwesu ei glust, ond yn gofalu am