Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod o fewn clyw, a gwrthdystiai yn erbyn cael ei adael allan o blith y goleuadau oedd i lewyrchu ar lwybr Gwen Ifan.

"O, ie, tri," ebe yntau, "'rydach chi'n gyfoethocach nag oeddwn i wedi feddwl. Ydyn' nhw'n lled ufudd i chi? Sut mae Siams yma yn byhafio?"

"Symol iawn, Syr," ebe Wil, gan ddangos ei barodrwydd i helpu Gwen Ifan trwy gymeryd y cyfrifoldeb o ateb am gymeriad Siams arno ei hun. "Dydi newyddion da ddim yn dygymod hefo fo; os oes gynoch chi chwaneg o honyn' nhw, peidiwch a'u gadael nhw yn 'i gyrraedd o.'"

"Tipyn yn galed arnat ti ydi o?" gofynnai Hywel, gan droi at y gwas bach.

"Caled iawn, Syr," ebe yntau, "mae o'n meddwl fod 'y mhen i wedi 'i neud o bres."

"Paid a chadw sŵn, Wil," ebe'r feistres, "'rwyt ti'n medi yr hyn wyt ti'n hau."

"Wel," meddai'r dyn ifanc, "dyna fy neges i ar ben. Rhaid i mi droi adre bellach. Ond 'roedd yn dda iawn gen i gael cario y genadwri, 'dasa ddim ond am y rheswm fod gŵr y Swan wedi cynnyg dwbwl y rhent am y ffarm pe cawsai hi,—ond chi fydd pia hi; ac os cai fyw, mi ddof heibio yma yn awr ac eilwaith,—hwyrach y medra i neud rhyw-beth i gadw Siams a Wil yn 'i lle."

Acth yr hwsmon i'w hebrwng ychydig gamre o'r buarth—teimlai fod ganddo rywfaint o hawl i wneud hynny, a chafodd y fraint o agor dwy lidiart iddo.