Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er fod dydd yr arwerthiant yn agoshau—dim ond rhyw dridiau eto—fe ysgafnhaodd cenadwri Hywel lawer iawn ar faich Gwen Ifan. Teimlai y byddai ei chartref iddi am beth amser wedyn, beth bynnag, ac am hynny 'roedd diolchgarwch lond ei chalon.

Twtio o gwmpas oedd gwaith pennaf y gwas a Wil y dyddiau hyn, ar gyfer y gwerthu; ond 'roedd un frawddeg ddywedodd nai y stiwart wedi peri i Wil heddyw gymeryd gwaith arall ar ei ysgwyddau ei hun. 'Roedd gŵr y Swan nid yn unig yn gyrru ar Gwen Ifan am ei arian, ond hefyd wedi cynnyg cymaint ddwywaith o rent am y ffarm er mwyn ei chael i'w ddwylo.

'Roedd Huw, gwas Bryn Marian, yn arfer treulio ambell gyda'r nos yn y dafarn, a chymerodd y gwas bach y diwrnod hwnnw lawer iawn o drafferth i wasgu at ei ystyriaeth ei rwymedigaeth i fynd i'r Swan y noson honno, ac i'w wneud yn gyfarwydd yn y dull mwyaf effeithiol i halltu Mr. Morgan am ei fudrwaith. Nid yn ofer y llafuriodd Wil—bu braidd yn rhy lwyddiannus. Diweddodd y siarad yn y Swan trwy i was Bryn Marian daro Mr. Morgan i lawr yn ei dŷ ei hun; ac er fod y gegin yn weddol lawn, ni chafwyd cymaint ag un i wrthdystio yn erbyn y ddyrnod.

Treuliodd Siams y diwrnod i geisio dyfeisio rhyw ffordd i osgoi chwalfa yr arwerthiant. Bu yn trafod y cwestiwn droion yn ystod y dydd. Gwnaeth hynny hefo Nel; ac aeth i fyny i'r llofft ar awr