Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ginio i fynd dros yr hanes hefo Lewys Dafydd, ond nid oedd ffordd o waredigaeth yn agor yn unman. Gwnaeth y tyrchwr i Nel fynd dros yr un hanes drachefn wrth fynd â thê i fyny iddo yn y pnawn. Aeth dwy noswaith heibio heb i unrhyw ddrws of ymwared agor, a thrannoeth, bellach, oedd diwrnod yr arwerthiant.

Aeth Siams i. fyny i'r llofft i fynd i'w wely yn weddol gynnar y noson honno.

Oes yna ddim goleuni wedi dwad o unlle, Siams?" gofynnai Lewys Dafydd.

"Dim," ebe yntau.

"Mae hi yn y pen—ddaw dim byd bellach," ebe'r tyrchwr.

"O, na dydi hi ddim yn y pen," meddai'r hwsmon.

"Wel, 'does dim ond heno am dani hi, a be ddaw heno," ebe'r tyrchwr drachefn.

"Dydi hi ddim yn y pen," ebe Siams wedyn, ac aeth ar ei liniau i ddweyd ei bader, fel yr arferai wneud bob nos. Pan gododd i fyny,—

Siams," ebe'r tyrchwr, "oes gin ti ofn nos?" Ddim llawar," ebe'r hwsmon, "be fynni di?" Fedra i ddim gorwedd yn y fan yma i wrando ar sŵn mwthwl y dyn yna yfory, a chen inna arian sychion yn gorwedd yn segur mewn nant i fyny'r mynydd yna. Rhaid iti fynd i ymyl y Foty heno i chwilio am danyn nhw. Faint ydi hi o'r gloch?"

"Mae hi yn hanner awr wedi naw," ebe Siams, a bron wedi colli ei anadl yn gwrando.