"O, mae hi yn rhy gynnar i gychwyn eto," ebe Lewys Dafydd, "rhaid i ti aros nes bydd hi yn ymyl hannar nos.'
"Raid i mi fynd fy hun?" gofynnai Siams. "Ga i fynd â Wil hefo fi?"
"O'r gora, dos i chwilio am dano fo."
Cafodd Siams afael yn Wil, a llusgodd ef i'r llofft trwy drais heb egluro dim iddo. Dyna lle buont yn disgwyl am drymder nos, a'r gwas bach yn methu dirnad beth oedd yn bod, ond gwyddai ei fod yn rhywbeth pwysig.
Ni fu mewn wylnos erioed fawr fwy o ddal anadl, beth bynnag am ddefosiwn, nag oedd yn y llofft pan yn aros i oriawr yr hwsmon deimlo â'i bysedd am hanner nos. Sibrwd yn hytrach na siarad oedd yno, a rhwng Siams a Lewys Dafydd yn bennaf yr oedd hynny. Eisteddai'r gwas bach ar focs dillad yr hwsmon i gnoi gweiryn oedd wedi cofleidio botwm ei gôt wrth iddo basio'r dâs, ac i geisio dyfalu mewn distawrwydd pam y darnlusgodd Siams ef i'r llofft mor ddiseremoni. Aeth y ddau arall ymlaen i sgwrsio dan eu hanadl, heb oleuo dim ar Wil, ond heb ychwaith warafun cyfle iddo dderbyn datguddiad graddol oddiwrth y sgwrs.
"Ble yno ma' nhw?" gofynnai'r hwsmon i Lewys Dafydd. "Ydyn' nhw yn anodd i cael?"
"'Dydyn nhw ddim yn hawdd," ebe yntau, ond mae nhw'n haws i cael nag oeddan nhw i mi wrth 'i hel. Mi wyddost am hen glogwyn sy' ryw