dri chant o lathenni tu draw i'r Foty—yng ngodre hwnnw—yr ochor dde."
Clogwyn y siglan wyt ti'n feddwl?" gofynnai yr hwsmon, mewn llais a'i gywair dipyn yn gynhyrfus.
"Ie," ebe'r llall.
Eisteddodd yr hwsmon yn ddrych o anobaith ar gwr o'r un bocs a Wil.
"Twt," meddai, "ma nhw cyn saffed a dasa nhw yng ngwaelod gwaith plwm, a hwnnw heb i agor. Pwy byth fedar fynd atyn' nhw—mi leiciwn i wybod? Fedri di fynd?" a throdd ei lechwedd a'i gwestiwn at Wil.
"Be' ydyn' nhw?" ebe'r gwas bach.
"Celc yr hen law," ebe Siams, gan gyfeirio â'i fawd at y tyrchwr. "Mae o am dynnu'r pinna o 'lwynion gŵr y Swan fory, os medrwn ni fynd dros yr hen siglan yna."
"Be' yn y byd oedd yn dy gorddi di i'w rhoi nhw mewn lle felly?" gofynnodd i'r tyrchwr drachefn.
"Fasa ti'n disgwyl i mi crogi nhw ar bost llidiart ar fin y ffor dyrpac?" ebe yntau.
"Mewn be' mae nhw?" gofynnai'r hwsmon wedyn.
"Mewn dwy hosan, a rheini mewn dwy esgid, a'r 'sgidia wedi i claddu yn dwt wrth ochra i gilydd, a'i gwadna yn isa'."
Traddodai Lewys Dafydd y manylion hyn yn hamddenol, a chyda chryn lawer o ddifrifwch ac urddas, ond 'roedd hanner y gynulleidfa oedd yn