Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eistedd ar y bocs dillad yn gwrando yn hollol anheilwng. I Wil 'roedd gweledigaeth pâr o 'sgidia a'u llond o aur yn llechu yn ddistaw dan dywarchen yn ogleisiol, a dechreuodd gicio ei sodlau yn erbyn ystlys y coffor, ond dyna sŵn curo yr ochr arall i'r pared,—migyrnau Gwen Ifan yn dweyd mewn iaith ddeallid yn dda,—

Rhag cwilydd i chi, byddwch yn ddistaw, 'does dim posib cysgu."

Pan welodd y tyrchwr fod y dull ym mha un y claddasai ei drysor yn goglais Wil, dechreuodd adrodd sut y bu iddo eu claddu felly.

"Mi fum i," meddai "yn y siglan am bum awr wrth i danfon nhw, a 'roeddwn i wedi dechre meddwl mai yno y byddwn i farw, ond rywsut mi fedres lanio yr ochor draw. 'Roedd yr arian wedi i lapio a'i rhwymo mewn llian, ond pan oeddwn i yn mynd i'w rhoi i lawr yn y ddaear mi ofnes y byddai'r llian wedi pydru cyn y byddwn i yn nol yr arian, ac y cawswn i felly drafferth i'w cael nhw i gyd o'r pridd. Be' nes i, mi dynnes fy 'sgidia—'roedd trefn sobor arnyn' nhw wedi bod yn y gors—a mi dynnes fy sanna hefyd. Mi wnes amdo o'r sanna ac eirch o'r 'sgidia, a mi gladdes y trysor yn ofalus. 'Rydw i wedi meddwl ganwaith am fy ffolineb."

"Sut doist ti odd'no?" ebe Wil.

"Ar fy nhor—ymlusgo yn llythrennol fel malwen," ebe'r tyrchwr. "'Roeddwn i wedi cael profiad chwerw o dreio cerdded dros y siglan, a mi wyddwn na faswn i ddim yn sincio 'run fath wrth