Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chysondeb difwlch i wneuthur rhyw fath o research work diniwed ymhlith y tyllau—fel y gwna llawer don methiantus arall.

Cyfundeb diddorol oedd cyfundeb y cwningod yn y clawdd terfyn, a buasai hanes yr achos yn y lle o'i ddechreuad yn ychwanegiad amheuthun at y math hwnnw o lenyddiaeth. Buasai yn ddiddorol gwybod ymha flwyddyn y sefydlwyd yr achos gyntaf, a'r dydd a'r mis y turiwyd pob twll; ond dibris fuont o'u dechreuad, ac aeth pob manylion felly i eigion ebargofiant. Y mae'n bur eglur mai eglwys sefydledig oedd hi o'r cychwyn—neu os nad sefydledig, eglwys na bu hi ddim yn dibynnu am noson erioed ar yr egwyddor wirfoddol Yn gwbl groes i'w hewyllys, beth bynnag am gydwybod, y cyfrannai Pitar Huws a Tomos Bifan at ei chynnal. Degymai hi y ddau, nid bob amser yn gyfartal, ond bob amser yn ddigon teg. Hawliai y cwningod eu cynhaliaeth o'r tu goreu i'r clawdd o hyd. Os yn ochr y Frwynos y byddai'r egin neu'r borfa oreu, yno y porent; ond os tu Bodrach fyddai'n rhagori, aent yno. Byddent yn gweithredu barn a chydwybod, ac yn byw ar y cryfa, mor bell ag y gallent hwy farnu yng nghyffiniau'r clawdd. Hwyrach fod rhagluniaeth yn cael pleser mewn cipiws porfa ac egin dipyn yn ddiofal o boptu, ac wedi ordeinio preswylwyr y clawdd terfyn trwy eu holl genhedlaethau fel rhyw Court of Equity i gyfartalu pethau yn fanylach.

Gwr gweddw diblant oedd Pitar Huws y Frwynos, a chedwid ei dŷ, yn ddigon twt, gan nith