Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clawdd Terfyn.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymlusgo. Mi fum i'n meddwl wedyn mai'r cynllun gora fasa cymeryd y ddwy lidiart fach sydd wrth dŷ y Foty—rhoi un ar gwr y siglan, sefyll ar honno, a rhoi y llall tu draw iddi hi, mynd wedyn ar hono, ac felly o hyd nes mynd drosodd."

Campus," ebe Siams, "felly gwnawn ni, Wil," a tharawodd ei law ar ben ei lin, fel dyn wedi gwneud darganfyddiad.

Erbyn hyn 'roedd hi yn ymyl hanner nos, ac ar ol cael disgrifiad manwl o'r lle gan y tyrchwr, cychwynnodd y ddau i lawr o'r llofft mor ddistaw ag y medrent, ond clywodd Gwen Ifan hwynt, a phan oeddynt yng ngwaelod y grisiau, agorodd ddrws ei hystafell, a gwaeddodd,—" Pwy sy' 'na?" Ond nid oedd llais na neb yn ateb.

"Pwy sy' 'na?" gwaeddai wedyn yn fwy llym ei llais.

'Siams," ebe Wil.

"Lle 'rydach chi'n mynd yr amser yma o'r nos?" ebe'r fistres.

"I osod trap i ddal yr ocsiwniar fory," ebe'r gwas bach.

"Siams," ebe'r wraig, "mae rhyw reswm arnat ti, lle 'rydach chi'n mynd?"

"'Rydan ni'n mynd i'r Foty i 'nol" ond parodd pwniad gan y gwas bach i'r hwsmon ddiweddu ei frawddeg mewn peswch amheus.

"I 'nol bybe'?" ebe'r fistres.

"Sgidia gora Lewys Dafydd," ebe Wil; "mae

o am godi fory, a rhaid iddo fo i cael nhw."