'Dy lol di, Wil, ydi hwna," ebe hithau.
"Gofynwch iddo fo," ebe'r gwas bach.
"Oes gin ti eisio 'sgidia o'r Foty at yfory, Lewys Dafydd?" gwaeddai Gwen Ifan.
"Well i mi cael nhw 'rydw i'n barnu," ebe yntau.
"Fyth o'r fan yma," ebe hi, "mae llai yn 'i ben o nag oeddwn i wedi feddwl."
"A mwy yn 'i 'sgidia fo nag oeddwn inna wedi feddwl; tyd, Siams," ebe Wil.
Aeth y ddau allan, a'r foment honno, yn y tywyllwch a'r ddrycin y sylweddolodd y ddau y gwaith oedd yn eu haros. Ar ol cael llusern o'r ystabl, a thrywel a rhaff, cychwynasant i fyny i'r mynydd i gyfeiriad y Foty. Nid rhyw lawer siaradent ar y ffordd—'roedd y nos a'r neges wedi distewi y ddau. Cyrhaeddasant y tŷ o'r diwedd. Cymerodd Siams un lidiart fach, a chymerodd Wil y llall, a chludwyd hwy at y siglan. Hawliai yr hwsmon yr anrhydedd o beryglu ei fywyd i estyn 'sgidia'r tyrchwr, fel y galwai'r gwaith, ac ni theimlai Wil ar ei galon fynd a'r fraint oddiarno, oherwydd nid oedd yn hidio rhyw lawer am yr olwg gai ar y gors yn llewyrch y llusern. Gosododd yr hwsmon un lidiart ar gwr y gors, ac aeth ar ei draed arni. Galwodd am y llidiart arall, a gosododd hi tu hwnt, ac yna symudodd ar honno, ond yn yr ymdrech i godi'r llidiart oedd tu ol i'w gosod ymlaen wedyn, llithrodd ei draed rhwng ffyn yr un y safai arni i'r siglan. Dechreuodd y gwas bach chwerthin, ac yn